Trenau Great Western Railway ychwanegol ar gyfer cyngherddau mawreddog dyddiau Mawrthyng Nghaerdydd
Bydd cwmni Great Western Railway yn darparu trenau ychwanegol ar gyfer dilynwyr cerddoriaeth sy’n mynd i gyfres o gyngherddau mawr yn Stadiwm Principality Caerdydd.
Bydd y cwmni trên yn darparu gwasanaethau ychwanegol er mwyn helpu pobl i fynd adref ar ôl cyngerdd Pink heno, cyngerdd Taylor Swift ddydd Mawrth nesaf, a chyngerdd Foo Fighters ar ddydd Mawrth 25 Mehefin.
Bydd GWR yn rhedeg 10 trên ychwanegol ar bob un o’r nosweithiau hyn, gan ddarparu mwy na 15,000 o seddi ychwanegol.
Fodd bynnag, disgwylir i drenau fod yn brysur iawn, gyda miloedd o bobl yn cerdded o’r Stadiwm Principality i orsaf Caerdydd Canolog, sydd heb fod ymhell, ar ôl y cyngherddau.
Ar noson pob cyngerdd, bydd cyfanswm o bum gwasanaeth yn rhedeg i Abertawe o 2252 ymlaen, a 11 o wasanaethau i Gasnewydd o 2230, gan deithio ymlaen at Bristol Temple Meads, Bristol Parkway a Swindon.
Gan ailadrodd y system ciwio oedd ar waith ar gyfer cyngerdd Bruce Springsteen yn ddiweddar, gofynnir i bobl sy’n teithio i Gasnewydd giwio ar y sgwâr o flaen gorsaf Caerdydd Canolog, yn hytrach nag ym maes parcio Glan yr afon.
Dywedodd Richard Rowland, Cyfarwyddwr Gweithrediadau GWR:
“Mae Stadiwm Principality yn disgwyl bron 50,000 o bobl i fynychu pob un o’r cyngherddau hyn yn ystod yr wythnosau nesaf, a bydd llawer ohonynt yn dewis cymryd mantais o hwylustod teithio ar drên.
“Mae diogelwch ein cwsmeriaid o’r pwys mwyaf ac rydym yn gwneud ein gorau i helpu trwy ddarparu trenau ychwanegol ochr yn ochr â gwasanaethau ein hamserlen arferol.
“Mae digwyddiadau blaenorol o’r un maint wedi dangos bod ein trenau’n brysur iawn, a bydd angen i bobl giwio tu allan i’r orsaf i fynd ar y trenau’n ddiogel.
“Rydym yn annog i bawb sy’n defnyddio’r gwasanaethau hyn wirio eu hamserau a chysylltiadau teithio yn gwr.com/check ac i ganiatáu amser digonol i gwblhau eich taith adref.”
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn darparu seddi ychwanegol lle bo’n bosibl ar lwybrau i/o Gaerdydd ar ddydd Mawrth 11 Mehefin. Disgwylir i’r trenau fod yn brysur iawn, felly dylech ganiatáu digon o amser ar gyfer eich taith.
Bydd y ciwiau ar gyfer gwasanaethau’r Cymoedd tu ôl i’r orsaf. Bydd gorsaf Caerdydd Heol y Frenhines yn cau i deithwyr am 2130, heblaw am fynediad hygyrch a’r rhai a hoffai deithio i Fae Caerdydd. Byddwn yn cynnal gwiriadau refeniw trwy’r dydd yng Nghaerdydd.
Mae drysau Stadiwm Principality yn agor am 1700 ar gyfer cyngherddau Pink a Taylor Swift, ac am 1900 ar gyfer Foo Fighters. Disgwylir i’r tri chyngerdd orffen tua 2200.
Contact Information
John Carter
Media and Communications Manager
Great Western Railway
0845 410 4444