Sir Casnewydd yn y Gymuned yn derbyn hwb gwerth £20,000 oddi wrth Great Western Railway
Mae prosiect yn ne Cymru sy’n cefnogi pobl ifanc trwy chwaraeon wedi derbyn grant gwerth £20,000 gan Great Western Railway.
Gwnaeth Sir Casnewydd yn y Gymuned gais llwyddiannus am grant gan Gronfa Gwella Cwsmeriaid a Chymunedau GWR, sy’n cefnogi cymunedau lleol ac yn mynd i’r afael â meysydd o angen cymdeithasol.
Mae’r Ymddiriedolaeth yn darparu sesiynau pêl-droed, prosiectau a chynlluniau yng Nghasnewydd a’r cyffiniau er mwyn ymgysylltu â phobl leol a chreu profiad cadarnhaol trwy glwb pêl-droed Sir Casnewydd, sy’n Adran Dau'r Gynghrair Bêl-droed.
Bydd arian GWR yn galluogi prosiect Sir Casnewydd yn y Gymuned i ddarparu sesiynau wedi’u targedu mewn lleoedd a bennwyd yn fannau problemus o ran troseddau ieuenctid ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gysylltiedig â’r rheilffordd.
Dywedodd Liam Jenkins, Rheolwr Datblygu Cymunedol a llefarydd y prosiect:
“Rydym yn hynod o ddiolchgar i dderbyn yr arian hwn gan Great Western Railway, a fydd yn helpu i dyfu ein hôl-troed mewn cymunedau penodol ar draws y ddinas.
“Bydd yn ein caniatáu ni i gynyddu ein gwaith ymgysylltu ac i roi lle diogel i bobl ifanc ddod a chymdeithasu gyda’i ffrindiau. Y peth mwyaf pwysig yn ystod y naw mis nesaf fydd dysgu i bobl ifanc pa mor beryglus yw cledrau’r rheilffordd, a gwneud iddynt ddeall y canlyniadau posibl petaent yn gwneud y dewis anghywir.
“Trwy’r gweithdai hyn a’r berthynas gadarnhaol a ddatblygwn gyda’r bobl ifanc, rydym yn hyderus y bydd y prosiect hwn yn arwain at ostyngiad mesuradwy mewn trosedd yn gysylltiedig â’r rheilffordd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.”
Dywedodd Emma Morris, Uwch Reolwr Effaith Gymunedol GWR:
“Mae’r Gronfa Gwella Cwsmeriaid a Chymunedau’n gyfle gwych inni fuddsoddi yn ein cymunedau mewn prosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar lefel lleol.
“Rydym wrth ein boddau i gefnogi’r fenter hon, a fydd yn helpu i godi ymwybyddiaeth am y peryglon sy’n gysylltiedig â’r rheilffordd, a’r angen i bawb ddangos synnwyr cyffredin pan fyddant yn symud o amgylch yr orsaf.”
Contact Information
John Carter
Media and Communications Manager
Great Western Railway
0845 410 4444
Notes to editors
Mae cwmni First Greater Western Limited, yn masnachu fel “Great Western Railway” (GWR), yn gweithredu trenau ar draws ardal masnachfraint Great Western, sy’n cynnwys de Cymru, de-orllewin Lloegr, y Cotswolds, ar draws de Lloegr ac i mewn i Lundain. Mae GWR yn cynnig gwasanaethau trên cyflym, cymudol, rhanbarthol a llinell gangen ac mae’n helpu mwy na 80 miliwn o deithwyr i gyrraedd eu cyrchfannau bob blwyddyn. Dyfarnwyd Contract Rheilffordd Cenedlaethol i GWR barhau i weithredu rhwydwaith Great Western: https://www.gwr.com/about-us