Visit Wales and GWR partnership for Wales Week in London

Neidiwch ar drên i gael paned wrth i GWR ddathlu Wythnos Cymru yn Llundain

Neidiwch ar drên wrth i gwmni Great Western Railway helpu i ddathlu Wythnos Cymru yn Llundain, sef cyfres o ddigwyddiadau ledled y ddinas yn dathlu Cymru a phob peth Cymreig.  

Ar Ddydd Gŵyl Dewi, dydd Gwener 1 Mawrth, bydd GWR yn hudo pobl sy’n teithio ar wasanaethau o Abertawe a Chaerdydd drwy roi iddynt baned o de brand arbenigol Welsh Brew am ddim.

Yn ogystal â’r te, bydd gwasanaethau ar y trên rhwng 0623 a 0837 yn cynnig pice ar y maen/cacennau cri a theisen frau Gymreig i deithwyr er mwyn dathlu’r ŵyl. 

Bydd staff sy’n siarad Cymraeg wrth law hefyd, yn gwneud cyhoeddiadau Cymraeg wrth i’r gwasanaethau deithio trwy Gymru ar eu ffordd i Lundain Paddington.  

Dywedodd Mererid Gehler, Rheolwr Gwasanaethau ar y Trên GWR bu’n helpu i drefnu’r rhoddion: 

“Allwn ni ddim aros i’ch croesawu chi ar y trên a helpu i ddathlu pob peth Cymreig ar ein diwrnod cenedlaethol. Rydym yn falch o etifeddiaeth GWR yng Nghymru a’n timau yn Abertawe a Chaerdydd ac wrth ein boddau’n cael y cyfle i ddathlu Cymru yng Nghymru ac ar draws rhwydwaith GWR.  

“Lle mae ein staff yn siarad Cymraeg, hyd yn oed tipyn bach, rydym yn falch i’w cefnogi i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith – ac ar Ddydd Gŵyl Dewi yn arbennig. Bydd ein cwsmeriaid yn gallu adnabod gweithiwr GWR sy’n siarad Cymraeg trwy’r Ddraig Goch ar ei fathodyn enw.   

“Os ydych chi’n colli’ch cyfle i gael paned yn y bore, beth am deithio nôl ar ein gwasanaeth Pullman Dining am 1748? Rydym yn gobeithio cadw rhywfaint o’r te yn ôl ar gyfer y daith honno.”

Caiff y teithwyr eu trochi mewn profiad Cymreig wrth gyrraedd Llundain, gydag arddangosfa ffotograffiaeth arbennig mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru, Croeso Cymru a Network Rail ar blatfformau 8 a 9. Os na welwch yr arddangosfa yn Llundain, mae’n mynd ymlaen at orsafoedd Caerdydd ac Abertawe yn ystod y misoedd nesaf. 

Dywedodd Rich Middleton, Rheolwr Twf Cymru a Gorllewin Lloegr: 

“Gwyddom fod gorsaf Paddington yn ddechrau antur Great Western Railway i lawer o’n teithwyr, felly pa le gwell i ddangos yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig na’n harddangosfa gyda chorff Croeso Cymru? Ar Blatfformau 8 a 9, bydd ein cwsmeriaid yn gallu gweld rhai o gyrchfannau gwych Cymru, a wasanaethir gan GWR a’n cyfeillion yn Nhrafnidiaeth Cymru.” Caiff Wythnos Cymru yn Llundain ei chynnal bob blwyddyn ac mae’n gyfle i ddathlu a hyrwyddo Cymru ym mhrifddinas y DU. Mae’r arddangosfa yn caniatáu i fusnesau a sefydliadau o Gymru gysylltu ac adeiladu partneriaethau â chynulleidfaoedd a leolir yn Llundain mewn digwyddiadau yn ystod misoedd Chwefror a Mawrth. Caiff y dathliad ei gynnal o ddydd Iau 22 Chwefror i ddydd Mercher 6 Mawrth eleni.

Mae GWR yn rhedeg 30 o drenau bob dydd i’r ddwy ffordd rhwng Caerdydd (mwy na 20 ohonynt o Abertawe) a Llundain Paddington. Ym mis Mai 2023, cyflwynodd GWR 65 o drenau ychwanegol yn ne Cymru, gan ymestyn y gwasanaethau trên tu hwnt i Abertawe at Gaerfyrddin.  

Hefyd, mae gwasanaeth Pullman Dining Cymreig yn weithredol rhwng Abertawe a Llundain Paddington yn ystod yr wythnos, yn eich galluogi chi i wledda ar fwyd o’r ansawdd gorau a mwynhau rhai o’r golygfeydd gorau ym Mhrydain.  

Contact Information

James Davis

Media Relations Manager

Great Western Railway

0845 410 4444

james.davis@GWR.com

Notes to editors

Nodiadau i’r golygydd 

Mae cwmni First Greater Western Limited, yn masnachu fel “Great Western Railway” (GWR), yn gweithredu trenau ar draws ardal masnachfraint Great Western, sy’n cynnwys de Cymru, de-orllewin Lloegr, y Cotswolds, ar draws de Lloegr ac i mewn i Lundain. Mae GWR yn cynnig gwasanaethau trên cyflym, cymudol, rhanbarthol a llinell gangen. Cyn pandemig Covid-19, roedd yn helpu mwy na 100 miliwn o deithwyr i gyrraedd eu cyrchfannau bob blwyddyn. Dyfarnwyd Contract Rheilffordd Cenedlaethol i GWR barhau i weithredu rhwydwaith Great Western, a fydd yn rhedeg hyd 21 Mehefin 2025, gyda’r posibilrwydd o estyniad tair blynedd yn ôl disgresiwn yr Ysgrifennydd Gwladol. I gael mwy o wybodaeth ewch i: https://www.gwr.com/about-us.