Twickenham-2

Lloegr v Cymru: Bydd gwaith cynnal a chadw’n effeithio ar gefnogwyr sy’n teithio i Twickenham

Bydd gwaith cynnal a chadw’n effeithio ar gefnogwyr rygbi sy’n teithio i Twickenham o Gymru a de orllewin Lloegr ddydd Sadwrn.

Bydd y llinell rhwng Reading a Bracknell ar gau o ddydd Sadwrn 10 i ddydd Sul 18 Chwefror, sy’n golygu y bydd angen i gefnogwyr addasu eu teithiau ar gyfer gêm Lloegr-Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad (cic gyntaf am 1645).

Gall cefnogwyr sydd fel arfer yn newid yn Reading ar gyfer gwasanaethau South Western Railway i  Twickenham deithio o:

  • Reading i Lundain Paddington ar wasanaethau GWR neu linell Elizabeth, wedyn ar linell Bakerloo o Paddington i Waterloo am wasanaethau SWR i Twickenham.
  • Reading i Basingstoke ar drenau GWR neu CrossCountry am wasanaethau SWR ar hyd unrhyw lwybr rhesymol i Twickenham.

Ni fydd cost ychwanegol os byddwch chi’n teithio trwy Lundain Paddington neu Basingstoke. Fodd bynnag, ni chaiff tocynnau a lwythwyd ar gerdyn clyfar eu derbyn ar drenau London Underground a bydd angen ichi dalu am y daith hon. Bydd y cyfyngiad hwn o ran derbyn tocynnau ar waith i’r ddau gyfeiriad ar ddydd Sadwrn 10 Chwefror 2024 yn unig.  

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau GWR, Richard Rowland:

“Gwyddom y byddai llawer o’r cefnogwyr sy’n teithio ar wasanaethau GWR fel arfer yn newid yn Reading am wasanaethau SWR i Twickenham. Ar ddydd Sadwrn, bydd angen ichi fynd i Paddington neu deithio trwy Basingstoke cyn anelu am Twickenham.

“Dylech ganiatáu amser digonol ar gyfer eich taith a chofiwch y bydd trenau’n eithriadol o brysur yn y cyfnod cyn y gic gyntaf ac yn union ar ôl y gêm.”

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth.

Contact Information

John Carter

Media and Communications Manager

Great Western Railway

0845 410 4444

John.Carter1@gwr.com