GWR NHS NAMING 010

GWR yn dathlu 75 o flynyddoedd o’r GIG drwy enwi trên ar ôl Aneurin Bevan

  • Cwmni Great Western Railway yn nodi pen-blwydd y GIG yn 75 oed drwy enwi trên arbennig
  • Aneira Thomas, y baban cyntaf a anwyd yn y GIG, yn dadorchuddio’r trên â’i enw newydd yng Nghasnewydd
  • Y trên yn galw yn Swindon i ddathlu rôl Cronfa Feddygol GWR yn y gwaith o lunio’r GIG
  • Y trên yn mynd ymlaen i Lundain Paddington lle bydd staff o ysbyty St Mary ac Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Imperial College yn cwrdd ag ef

Heddiw, dadorchuddiwyd trên Great Western Railway (GWR) arbennig iawn gan Aneira Thomas, y baban cyntaf a anwyd yn y GIG, gan ddathlu pen-blwydd y gwasanaeth iechyd yn 75 oed.

Enwodd yr awdur o Gymru'r trên Intercity Express 800005 ar ôl Aneurin Bevan, y gweinidog iechyd fu’n gyfrifol am lansio’r GIG yn 1948.

Ganwyd Aneira am un munud wedi hanner nos ar 5 Gorffennaf 1948, felly hi oedd y baban cyntaf i gael ei eni yn y GIG. I ddathlu, enwodd ei rhieni hi ar ôl y gwleidydd o Gymru.

GWR NHS NAMING 024

Heddiw, teithiodd o’i chartref yn Abertawe i’r seremoni enwi trên yng Nghasnewydd, yr orsaf agosaf i etholaeth Bevan, sef Glyn Ebwy, a’i fan geni yn Nhredegar, y mae trenau GWR yn galw ynddi.

Ar ôl y seremoni, teithiodd trên Aneurin Bevan i Lundain Paddington, gan alw yn Swindon er mwyn cydnabod y rôl a chwaraeodd diwydiant rheilffyrdd y dref yn y gwaith o sefydlu’r GIG.

Sefydlwyd Cymdeithas Cronfa Feddygol (MFS) Great Western Railway yn 1847 drwy ddefnyddio arian a godwyd o ddidyniadau uniongyrchol o gyflogau cydweithwyr yng ngweithfeydd GWR, Swindon.

SMG 7782

Dros y ganrif nesaf, datblygodd y MFS gyfleusterau diri - o faddonau ymolchi i ddoctoriaid a lleoedd deintydd. Ar ôl ymweld â’r cyfleusterau yn Swindon, mae’n debyg i Aneurin Bevan ddweud: “Dyna le’r oedd e, gwasanaeth iechyd cyflawn. Y cyfan yr oedd angen inni ei wneud oedd ei ehangu i gynnwys y wlad gyfan!”

Dywedodd Aneira, a dreuliodd ei gyrfa’n gweithio yn y GIG fel nyrs iechyd meddwl, ac awdur y llyfr hynod boblogaidd Hold on Edna:

“Mae’n fraint gweld GWR yn enwi trên ar ôl Aneurin Bevan i ddathlu pen-blwydd ein GIG yn 75 oed. Pa ganmoliaeth well i’r etifeddiaeth a gawsom gan sylfaenydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ogystal â Chronfa Feddygol GWR yn Swindon, a chwaraeodd ran flaenllaw yn y broses o roi cychwyn i’r gwasanaeth.

“Bydd y trên anhygoel hwn yn ein hatgoffa o’r dyn ei hun ac o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r sgiliau, gofal a thosturi y mae’n eu cynnig inni. Pen-blwydd Hapus yn 75 oed i’r GIG, a diolch i GWR.”

GWR NHS NAMING 049

Dywedodd Eluned Morgan AoS, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru:

“Mae ein GIG yn drysor i bawb yng Nghymru ac rydym yn arbennig o falch mai Cymro oedd ei sylfaenydd. Felly mae enwi’r trên hwn ar ôl Aneurin Bevan yn deyrnged deilwng i’r GIG ac yn ffordd arbennig o ddathlu ei ben-blwydd yn 75 oed yng Nghymru.”

IMG-20230704-WA0012

Dywedodd Janice Sigsworth, Prif Nyrs Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Imperial College: 

“Mae’r GIG yn un o gyflawniadau mwyaf balch y DU, ac mae’n bleser gennyf ddathlu ei ben-blwydd yn 75 oed gyda’n cymdogion yng ngorsaf Paddington a GWR.

“Cafwyd cysylltiad agos rhwng yr orsaf ac ysbyty St Mary’s ers mwy na chanrif a hanner, cyn sefydlu’r GIG ei hun. Mae’r cysylltiadau trafnidiaeth eang yn hollbwysig i’n cleifion a’n staff ac yn un o’r rhesymau pam yr ydym ni wedi datblygu’n ddarparwr blaengar o ofal clinigol, addysg ac ymchwil – ac yn gallu chwarae rôl mor bwysig o ran cefnogi iechyd a llesiant ein cymuned leol.

“Dim ond cryfhau a wnaiff y cysylltiad hwn yn y dyfodol, wrth inni ddatblygu St Mary’s yn ysbyty mwy o faint, a Paddington yn dod yn ganolfan arweiniol yn y gwyddorau bywyd.”

Dywedodd Joe Graham, Cyfarwyddwr Sicrwydd Busnes GWR:

“Mae’n fraint inni enwi’r trên Intercity Express hwn ar ôl Aneurin ‘Nye’ Bevan ac i ddathlu pen-blwydd y GIG yn 75 oed – ynghyd a’r cysylltiad unigryw rhyngddo a Great Western.  

“Yn ogystal â’n cysylltiad â Chronfa Feddygol Great Western, mae gennym hanes hir o enwi trenau ar ôl pobl Great Western, arwyr y presennol a’r gorffennol ledled ein rhwydwaith.

“Roedd hefyd yn fraint a hanner i gael croesawu Aneira Thomas i orsaf Casnewydd ac i ddathlu ei lle unigryw mewn hanes, fel y baban cyntaf a anwyd yn y GIG.”

Dywedodd Lisa Cleminson, Cyfarwyddwr Gorsafoedd Trafnidiaeth Cymru:

“Roeddem wrth ein boddau i gefnogi’r seremoni hon i enwi trên ac i groesawu gwesteion i orsaf Casnewydd. Mae Aneurin Bevan yn berson mor bwysig yn hanes Cymru. Bydd pawb yn y diwydiant rheilffyrdd yn falch i weld trên Aneurin Bevan yn aros mewn gorsafoedd ar hyd prif linell De Cymru.”

Contact Information

John Carter

Media and Communications Manager

Great Western Railway

0845 410 4444

John.Carter1@gwr.com

Notes to editors

Mae cwmni First Greater Western Limited, yn masnachu fel “Great Western Railway” (GWR), yn rhedeg trenau ar draws ardal masnachfraint Great Western, sy’n cynnwys De Cymru, Gorllewin Lloegr, y Cotswolds, ar draws de Lloegr ac i mewn i Lundain. Mae GWR yn darparu gwasanaethau trên cyflym i gymudwyr ar lefel ranbarthol a changen. Cyn pandemig Covid-19, roedd yn helpu mwy na 100 miliwn o deithwyr i gyrraedd eu cyrchfannau bob blwyddyn. Dyfarnwyd Contract Rheilffyrdd Cenedlaethol i GWR er mwyn iddo barhau i weithredu rhwydwaith Great Western hyd at 21 Mehefin 2025. Mae’n bosibl y bydd y fasnachfraint yn parhau gyda’r cwmni am dair blynedd arall, yn ôl disgresiwn yr Ysgrifennydd Gwladol. Ceir mwy o wybodaeth yma: https://www.gwr.com/about-us