Great Western Railway yn darparu trenau ychwanegol ar gyfer y bobl sy’n mynd i gyngerddBilly Joel
Bydd Great Western Railway (GWR) yn rhedeg trenau ychwanegol ar gyfer dilynwyr Billy Joel sy’n mynd adref o Gaerdydd ar ddydd Gwener.
Bydd y cwmni trên yn darparu naw gwasanaeth ychwanegol, gan gynnig mwy na 5,000 o seddi ychwanegol.
Fodd bynnag, disgwylir i’r trenau fod yn brysur iawn, gyda miloedd o bobl yn cerdded o’r Stadiwm Principality i orsaf Caerdydd Canolog, sydd heb fod ymhell, ar ôl y cyngerdd.
Bydd pum gwasanaeth yn rhedeg o Gaerdydd i Abertawe o 2240 ymlaen, a naw gwasanaeth yn mynd o Gaerdydd at Gasnewydd (a thu hwnt) o 2230:
2230 – Bristol Temple Meads (2320)
2242 – Casnewydd (2257)
2300 – Casnewydd (2316), Bristol Temple Meads (2345)
2315 – Casnewydd (2328), Bristol Parkway (2349), Swindon (0012)
2322 – Casnewydd (2335), Bristol Temple Meads (0003)
2330 – Casnewydd (2342), Bristol Temple Meads (0024)
2340 – Casnewydd (2352), Bristol Temple Meads (0026)
2343 – Casnewydd (2358), Bristol Parkway (0026), Swindon (0044)
0013 – Casnewydd (0026), Bristol Temple Meads (0056)
Gan ailadrodd y system ciwio oedd ar waith ar gyfer cyngherddau blaenorol yr haf hwn, gofynnir i bobl sy’n teithio i’r dwyrain at Gasnewydd giwio ar y sgwâr o flaen gorsaf Caerdydd Canolog, yn hytrach nag ym maes parcio Glan yr afon.
Dywedodd Rachel Geliamassi, Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Gwsmeriaid GWR:
“Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu ein cwsmeriaid i gyrraedd adref ar ôl y gyngerdd trwy ddarparu trenau ychwanegol ochr yn ochr â gwasanaethau ein hamserlen arferol.
“Ond fel y gwelsom ar ôl cyngherddau eraill yn Stadiwm Principality yr haf hwn, mae’r trenau’n brysur iawn a bydd angen i bobl giwio tu allan i’r orsaf ar ôl y gig.
“Mae diogelwch ein cwsmeriaid o’r pwys mwyaf ac rydym yn annog i bobl wirio eu hamserau a chysylltiadau teithio yn gwr.com/check ac i ganiatáu amser digonol i gwblhau eich taith adref.”
Mae drysau Stadiwm Principality yn agor am 1700 a disgwylir i’r gyngerdd orffen tua 2200.
Contact Information
John Carter
Media and Communications Manager
Great Western Railway
0845 410 4444