SWNS GWR RUGBY 39

Cymru yn erbyn y Barbariaid: cwmni Great Western Railway yn atgoffa cefnogwyr y bydd angen iddynt sefyll mewn ciw i fynd ar y trên yn ddiogel

Mae Great Western Railway yn atgoffa cefnogwyr rygbi y bydd y trenau’n brysur iawn yn union cyn ac ar ôl gêm Cymru yn erbyn y Barbariaid ar ddydd Sadwrn, ac y bydd system giwio ar waith i helpu pobl i gyrraedd adref yn ddiogel.

Mae’r cwmni’n darparu 46 o drenau i ac o orsaf Caerdydd Canolog ar gyfer yr ornest, y mae disgwyl brwd amdani, yn Stadiwm Principality (1430).

Atgoffir cefnogwyr sy’n teithio rhwng Llundain a Chaerdydd bod gwaith peirianyddol yn golygu y bydd gwasanaethau’n mynd ar lwybr wedi’i ddargyfeirio drwy’r dydd, ac y bydd y daith yn cymryd 30 munud yn hirach.

Bydd GWR yn rhedeg 29 o drenau i Gaerdydd Canolog cyn y gêm, ac y bydd 17 o drenau eraill yn mynd â chefnogwyr adref.

Gan ddefnyddio’r system oedd ar waith ar gyfer cystadleuaeth y Chwe Gwlad, gofynnir i gefnogwyr sy’n teithio i’r dwyrain tuag at Gasnewydd ar ôl y gêm i giwio ar y sgwâr o flaen gorsaf Caerdydd Canolog, yn hytrach nag ym maes parcio Glan yr Afon.

Wales v Barbarians.

Dywedodd Richard Rowland, Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Gwsmeriaid a Gweithrediadau GWR:

Rydym yn falch i gynnig rhywfaint o wasanaethau ychwanegol fel y gall pobl ymweld â Chaerdydd  /dod i Gaerdydd a chael taith gyfforddus, ond bydd y trenau’n brysur iawn yn y cyfnod cyn dechrau’r gêm a’r cyfnod yn syth wedyn. Er mwyn osgoi’r ciw/iau, efallai yr hoffech aros i fwynhau’r awyrgylch  yn y ddinas wych hon cyn mynd am adref.

“Gwiriwch yr amserau teithio ac os oes angen ichi fynd /ymadael yn syth ar ôl y gêm, cofiwch ganiatáu digon o amser i giwio a mynd ar y trên yn ddiogel.”

Dywedodd Adam Terry, Pennaeth Cynllunio Trenau Trafnidiaeth Cymru:

“Byddwn yn ychwanegu capasiti lle bo modd ond disgwylir y bydd gwasanaethau i ac o Gaerdydd yn union cyn ac ar ôl y gêm yn brysur, felly dylech ganiatáu digon o amser ar gyfer eich taith.

“Ar ôl y gêm bydd ein system giwio arferol ar waith a bydd digon o wasanaethau /drenau ar gael. Hoffem ddiolch i’n cwsmeriaid ymlaen llaw am fod yn amyneddgar/am eu hamynedd gyda’u cyd-gefnogwyr a’n staff wrth inni sicrhau bod pawb yn mynd/cyrraedd adref yn ddiogel.”

I gael mwy o wybodaeth, neu i wirio’ch taith, ewch i GWR.com

Contact Information

John Carter

Media and Communications Manager

Great Western Railway

0845 410 4444

John.Carter1@gwr.com