SWNS GWR RUGBY 22

Cymru v Yr Alban: Great Western Railway yn atgoffa cefnogwyr i wirio cyn teithio i gêm Bencampwriaeth y Chwe Gwlad

Mae Great Western Railway yn atgoffa cefnogwyr rygbi sy’n mynd i gêm Bencampwriaeth y Chwe Gwlad yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn i wirio cyn teithio, gan y gallai gweithredu diwydiannol effeithio ar wasanaethau.

Gall gweithredu diwydiannol gan undeb y gyrwyr trên Aslef arwain at newid neu ganslo trenau ar fyr rybudd cyn ac ar ôl gêm Cymru yn erbyn yr Alban yn Stadiwm Principality (cic gyntaf am 1645). Mae’r gweithredu’n effeithio ar gwmnïau trên eraill hefyd, er bydd gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru’n rhedeg fel y bwriadwyd.

Mae gwaith peirianyddol rhwng Bryste a Weston-super-Mare yn golygu y bydd gwasanaethau Caerdydd-Taunton-Plymouth yn dechrau a gorffen yng ngorsaf  Bristol Temple Meads. Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau.

Bydd y trenau’n union cyn ac ar ôl y gêm yn eithriadol o brysur, a bydd system giwio ar waith yng Nghaerdydd er mwyn helpu i bobl gyrraedd adref yn ddiogel.

Gan ailadrodd y system oedd ar waith ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad y llynedd, gofynnir i’r cefnogwyr sy’n teithio i’r dwyrain tuag at Gasnewydd ar ôl y gêm giwio ar y sgwâr o flaen gorsaf Caerdydd Canolog, yn hytrach nag ym Maes Parcio Glan yr afon.

Wales v Scotland 2024 TfW queue plan

Bydd GWR yn defnyddio ei drenau trydan Electrostar Dosbarth 387 i gynnig gwasanaeth gwennol rhwng Caerdydd a Chasnewydd er mwyn helpu i wasgaru’r dorf.

Dywedodd Richard Rowland, Cyfarwyddwr Gweithrediadau GWR:

“Gofynnwn i gefnogwyr wirio cyn teithio gan y gallai gweithredu diwydiannol arwain at newid neu ganslo trenau ar fyr rybudd, ac i deithio cyn gynted â phosibl ar ôl y gêm.

“Hoffwn atgoffa cefnogwyr hefyd y bydd y trenau’n eithriadol o brysur yn ystod y cyfnod cyn y gic gyntaf ac yn union ar ôl y gêm. Dylech ganiatáu digon o amser ar gyfer ciwio i fynd ar y trenau’n ddiogel.”

Dywedodd Adam Terry, Pennaeth Perfformiad Trafnidiaeth Cymru:

“Nid yw ein staff yn cymryd rhan yn y gweithredu diwydiannol yr wythnos hon a byddwn yn rhedeg ein hamserlen lawn. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai o’r trenau’n fwy prysur nag arfer oherwydd y newidiadau i wasanaethau gan gwmnïau trên eraill ar ddiwrnod y gêm ac ar y diwrnodau cyn ac ar ôl y gêm hefyd.  

“Byddwn yn cynnig cymaint o leoedd â phosibl ar wasanaethau i ac o Gaerdydd cyn ac ar ôl y gêm, ond rydym yn cynghori’n holl gwsmeriaid i gynllunio’u teithiau’n ofalus, caniatáu digon o amser i deithio a gwirio’r wybodaeth deithio ddiweddaraf ar y dydd, naill ai ar ein gwefan neu ein ap symudol a enillodd gwobrau.

“Edrychwn ymlaen at groesawu degau o filoedd o gefnogwyr rygbi i orsaf Caerdydd Canolog a bydd ein staff yn gweithio’n galed iawn i gael pawb i’r gêm ac i fynd adref yn ddiogel ar ei hôl.”

Golyga gweithredu diwydiannol y bydd tarfu sylweddol ar wasanaethau GWR ar ddydd Sul ac ni fydd trenau’n rhedeg ar lwybrau pell rhwng Llundain Paddington a de Cymru.

Bydd gwasanaethau cyfyngedig yn rhedeg ar nifer fach o lwybrau, gan gynnwys rhwng Caerdydd a Portsmouth, a Chaerdydd a Exeter St Davids trwy Weston-Super-Mare.

Os ydych yn bwriadu teithio pan fydd y trenau’n rhedeg, dylech wirio cyn teithio gan y byddant yn brysur ac mae’n debygol y bydd tarfu arnynt.

I gael mwy o wybodaeth, neu i wirio’ch taith,  ewch i GWR.com.

Contact Information

John Carter

Media and Communications Manager

Great Western Railway

0845 410 4444

John.Carter1@gwr.com