Cymru v Lloegr: GWR yn annog cefnogwyr i fynd adref cyn gynted ag y bo modd ar ôl gêm dydd Sadwrn
Dylai cefnogwyr rygbi sy’n defnyddio gwasanaethau Great Western Railway fynd ar y trenau’n syth ar ôl gem Ryngwladol yr Haf Cymru yn erbyn Lloegr er mwyn sicrhau eu teithiau adref.
Gall gweithredu diwydiannol gan undeb Aslef, sy’n nesaf peth i ddim at streic, arwain at newid neu ganslo trenau ar fyr rybudd. Mae GWR felly yn annog cefnogwyr i ymuno â’r system giwio tu allan i orsaf Caerdydd Canolog cyn gynted ag y bo modd ar ôl y gêm.
Bydd GWR yn rhedeg naw gwasanaeth i Fryste hyd at 2247, pedwar gwasanaeth i Lundain hyd at 2118, a chwe gwasanaeth i Abertawe hyd at 2251, sy’n fwy na 9,500 o seddi.
Dywedodd Daryn McCombe, Cyfarwyddwr Perfformiad a Chyflenwi Gwasanaethau Trên GWR:
“Rydym wedi cynnwys ychydig o wasanaethau ychwanegol yn ein hamserlen arferol i helpu cwsmeriaid i gyrraedd adref yn ddiogel. Ond gall gweithredu diwydiannol, sy’n nesaf peth i ddim at streic, arwain at newidiadau byr rybudd, felly rydym yn annog y cefnogwyr i ymuno â’r system giwio’n syth ar ôl y gêm er mwyn osgoi methu’r trenau y byddwn ni’n eu rhedeg.”
Gan ddefnyddio’r system oedd ar waith ar gyfer gemau’r Chwe Gwlad eleni, gofynnir i’r cefnogwyr sy’n teithio i’r dwyrain tuag at Gasnewydd giwio ar y sgwâr o flaen gorsaf Caerdydd Canolog, yn hytrach nag ym Maes Parcio Glan yr afon.
Nid yw staff Trafnidiaeth Cymru’n cymryd rhan yn y gweithredu diwydiannol a bydd TrC yn rhedeg ei amserlen arferol a gwasanaeth gwennol rhwng Caerdydd Canolog a Chasnewydd. Maent yn atgoffa cwsmeriaid i wirio cyn teithio a chaniatáu amser ychwanegol i gwblhau eu teithiau.
Dywedodd Adam Terry, Pennaeth Cynllunio Trenau Trafnidiaeth Cymru:
“Edrychwn ymlaen at groesawu miloedd o gefnogwyr rygbi i Gaerdydd ar ddydd Sadwrn. Bydd y gwasanaethau i/o Gaerdydd yn brysur iawn, yn enwedig yn ystod y ddwy/tair awr cyn ac ar ôl y gêm.
“Rydym yn annog yr holl deithwyr i gynllunio eu taith yn ofalus, gwirio’r wybodaeth deithio ddiweddaraf ar y diwrnod, ac ymgyfarwyddo â’r system giwio ar ôl y gêm ymlaen llaw er mwyn iddynt fynd adref mor gyflym ac mor ddiogel â phosibl.”
Cynghorir cefnogwyr sy’n teithio i Stadiwm Principality ganiatáu amser i fynd i mewn iddo, a theithio’n gynnar. Disgwylir i’r trenau sy’n cyrraedd ychydig cyn dechrau’r gêm (1730) fod yn brysur iawn.
I gael mwy o wybodaeth, neu i wirio’ch taith, ewch i GWR.com.
Contact Information
John Carter
Media and Communications Manager
Great Western Railway
0845 410 4444