SWNS GWR RUGBY 1

Cymru v Ffrainc: Great Western Railway yn darparu 52 o drenau ar gyfer gêm Bencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ddydd Sul

Bydd Great Western Railway yn darparu 52 o drenau a mwy na 27,000 o seddi ar gyfer cefnogwyr sy’n mynd i gêm Cymru yn erbyn Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sul.

Disgwylir i’r trenau union ar ôl y gêm yn Stadiwm Principality fod yn brysur iawn a bydd system giwio ar waith tu allan i orsaf Caerdydd Canolog. Atgoffir cefnogwyr i ganiatáu digon o amser i giwio er mwyn mynd ar y trenau’n ddiogel.

Bydd GWR yn rhedeg 27 o drenau i Gaerdydd cyn y gic gyntaf am 1500, a 25 o drenau i gludo’r cefnogwyr rygbi adref ar ôl y gêm.

Gan ailadrodd y system oedd ar waith ar gyfer gêm Cymru yn erbyn yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad fis diwethaf, gofynnir i’r cefnogwyr sy’n teithio i’r dwyrain tuag at Gasnewydd ar ôl y gêm giwio ar y sgwâr o flaen gorsaf Caerdydd Canolog, yn hytrach nag ym Maes Parcio Glan yr afon.

Six Nations Map Wales - France

Dywedodd Richard Rowland, Cyfarwyddwr Gweithrediadau GWR:

“Unwaith yn rhagor, rydym yn falch i gefnogi pobl sy’n teithio i/o Stadiwm Principality. Fodd bynnag, cynghorwn ein cwsmeriaid y bydd y trenau’n brysur iawn union cyn ac ar ôl y gêm, a bydd system giwio ar waith yn yr orsaf.

“Argymhellwn i gwsmeriaid wirio’u taith ac i ganiatáu digon o amser i fynd ar y trenau’n ddiogel.”

Dywedodd Adam Terry, Pennaeth Perfformiad Trafnidiaeth Cymru:

“Byddwn yn cynnig cymaint o leoedd â phosibl ar wasanaethau i ac o Gaerdydd cyn ac ar ôl y gêm, ond rydym yn cynghori’n holl gwsmeriaid i gynllunio’u teithiau’n ofalus, caniatáu digon o amser i deithio a gwirio’r wybodaeth deithio ddiweddaraf ar y dydd, naill ai ar ein gwefan neu ein ap symudol a enillodd gwobrau.  

“Mae ein tîm digwyddiadau mawr yn gweithio’n galed iawn i sicrhau bod pawb yn cyrraedd Caerdydd ac yn mynd adref eto’n ddiogel. Hoffem ddiolch i’n cwsmeriaid ymlaen llaw am eu hamynedd gyda’n staff a’u cyd-deithwyr yn ystod penwythnos prysur arall ar y rhwydwaith rheilffyrdd.”

Mae GWR yn rhedeg pum gwasanaeth ychwanegol cyn y gêm, gan ddarparu 2,600 o seddi ychwanegol, ac oddeutu 3,000 o  seddi ychwanegol (ar bum trên ychwanegol) ar ôl y gêm i fynd â phobl adref, yn ogystal â’r amserlen arferol.

I gael mwy o wybodaeth, neu i wirio’ch taith, ewch i GWR.com

Contact Information

John Carter

Media and Communications Manager

Great Western Railway

0845 410 4444

John.Carter1@gwr.com