SWNS GWR RUGBY 32

Cymru v De Affrica: GWR yn rhedeg 72 o drenau ar gyfer Gêm Ryngwladol yr Haf

Bydd mwy na 70 o drenau Great Western Railway yn rhedeg i ac o Gaerdydd ddydd Sadwrn ar gyfer Gêm Ryngwladol yr Haf Cymru yn erbyn De Affrica, gan gynnig 34,000 o seddi.

Bydd GWR yn rhedeg 40 o drenau i Gaerdydd Canolog cyn dechrau’r gêm am 1515 yn Stadiwm y Principality, a 32 o drenau i gludo cefnogwyr rygbi adref ar ôl y gêm.

Mae hyn yn cynnwys 16 o drenau ychwanegol ar ben yr amserlen arferol, gan ddefnyddio trenau mwy cynaliadwy Electrostar Dosbarth 387 GWR ar gyfer gwasanaeth gwennol rhwng Caerdydd a Chasnewydd ar ôl y gêm.

Mae disgwyl i’r trenau fod yn brysur iawn yn syth ar ôl y gêm a bydd system giwio ar waith tu allan i’r orsaf.

Cardiff Central map August 2023

Gan ailddefnyddio’r system oedd ar waith ar gyfer gemau’r Chwe Gwlad eleni, gofynnir i’r cefnogwyr sy’n teithio i’r dwyrain tuag at Gasnewydd giwio ar y sgwâr o flaen gorsaf Caerdydd Canolog, yn hytrach nag ym Maes Parcio Glan yr afon.

Ni fydd trenau CrossCountry yn rhedeg rhwng Birmingham New Street a Chaerdydd Canolog oherwydd gweithredu diwydiannol gan undeb RMT.

Dywedodd Richard Rowland, Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Gwsmeriaid a Gweithrediadau GWR:

“Rydym yn falch i gynnig rhywfaint o wasanaethau ychwanegol ar gyfer Gêm Ryngwladol yr Haf ddydd Sadwrn, ond hoffem atgoffa cefnogwyr y bydd y trenau’n brysur iawn yn y cyfnod cyn dechrau’r gêm a’r cyfnod syth wedyn.

“Byddem yn annog cwsmeriaid i wirio eu hamserau teithio ac i ganiatáu digon o amser i fynd ar y trên yn ddiogel.”

Dywedodd Adam Terry, Pennaeth Cynllunio Trenau Trafnidiaeth Cymru:

“Bydd Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg yr holl drenau a cherbydau sydd ar gael y penwythnos hwn ar gyfer y rygbi yng Nghaerdydd. Fodd bynnag, rydym yn disgwyl i’r trenau fod yn brysur ac yn annog ein holl gwsmeriaid i wirio cyn teithio a chynllunio ymlaen llaw. Hefyd, mae rhywfaint o weithredu diwydiannol ar drenau cwmnïau eraill rhwng Caerdydd a Cheltenham Spa a fydd yn effeithio ar rai cwsmeriaid.”

I gael mwy o wybodaeth, neu i wirio’ch taith, ewch i GWR.com.

Contact Information

John Carter

Media and Communications Manager

Great Western Railway

0845 410 4444

John.Carter1@gwr.com